Get all 16 Colorama releases available on Bandcamp and save 50%.
Includes unlimited streaming via the free Bandcamp app, plus high-quality downloads of LIAR, Chaos Wonderland, Dusty Road, And, Cookie Zoo, Some Things Just Take Time, Dere Mewn, Temari, and 8 more.
1. |
Dere Mewn
02:33
|
|||
Dere mewn
Rho dy draed ‘lan
A cae'r drws
Rhoia’r tan mlaen
Be ‘dy’r ots
Gweda pam lai
I ni ‘ma
Dim ond un waith
Dere mewn
Stedda lawr
Ti moin dised ?
‘Sna ti moin un
Be ti eisiau ?
Be ‘dy’r ots
Gweda pam lai
I ni ‘ma
Dim ond un waith
Dere mewn
Be ‘dy’r ots
Gweda pam lai
I ni ‘ma
Dim ond un waith
Ond ta waith
Dere mewn
Gweithai bwyd
Os ti’n starfio
Bara ffres -
A menin arno
Be ‘dy’r ots
Gweda pam lai
I ni ‘ma
Dim ond un waith
Dere Mewn
|
||||
2. |
Pan Ddaw'r Nos
03:46
|
|||
Pan ddaw’r nos
Pan ddaw’r nos
Y tywyllwch yn disgyn
Gyda’r lleuad ble mae’r haul i fod.
Pan ddaw’r nos
Pan ddaw’r nos
Y tawelwch yn torri
Gyda’r tylluanod mas yn y coed
Nes ymlaen
Nes ymlaen
Bydd pawb yn mynd adre
A’r cwbl lot yn mynd ar gau
A be’ amdanat ti?
Be’ amdana’ i?
Gawn ni weld –
Mae e’ lan i ni.
Dal fy llaw
A hedfanwn ni draw
I’r lle ble mae’r amser yn mynd.
Pan ddaw’r nos
Pan ddaw’r nos
Y sêr yn disgleirio
Fel darnau o aur mewn glo.
Pan ddaw’r nos
Pan ddaw’r nos
Anghofia pob trafferth
- heddwch hyfryd yw y nod.
Wela’i di ‘to
Pan ddaw’r nos.
|
||||
3. |
V Moyn T
03:13
|
|||
Syllu arni,
Ei harddwch llwyr.
Mae’r amser yn hedfan
Ni’n rhedeg yn hwyr.
Rhwy’n clywed llais fi
Yn siarad iddi
Ond dim ond un peth
Sydd ar fy meddwl i…
Fi moyn ti mwy nag unrhyw beth arall
Ti sy’n hala fi lan y wal
Fi moyn ti
Fi moyn ti
Fi moyn ti shwt gymaint
Fi moyn ti
Fi moyn ti
Fi moyn ti ar unwaith
Ar unwaith
Atgofion - fel moddion
I’r galon / briw
Yn codi i’r meddwl
I gadw ni’n fyw
Fi moyn ti mwy nag unrhyw beth arall
Ti sy’n hala fi lan y wal
Fi moyn ti
Fi moyn ti
Fi moyn ti shwt gymaint
Fi moyn ti
Fi moyn ti
Fi moyn ti ar unwaith
Ar unwaith
|
||||
4. |
Dim Byd O Werth
02:23
|
|||
“Dim byd o werth”
-‘Na beth dywedodd y ferch
A hi’n mor bert,
Rhwy’n ffili’n deg a credu’r peth!
Mae heno’n hir
Rhwy’n methu meddwl yn glir
Ar ddihyn
Dim ond edrych ar y mur
Mae’r meddwl yn dal i rhedeg
‘Da’r geiriau daeth o’i cheg -
‘Dim byd o werth”
Fffili cysgu
Meddwl am ei geiriau hi
Mor cyffrous
Methu aros am y dydd
Mae’r meddwl yn dal i rhedeg
‘Da’r geiriau daeth o’i cheg -
‘Dim byd o werth”
“Be ti’n wneud ‘fory?”
Gofynais iddi
A’i hateb hi oedd
“Dim byd o werth”
|
||||
5. |
Rhedeg Bant
03:53
|
|||
Dewch ‘da fi
I weld y byd
Dewch ‘da fi
I rhywle newydd
Mae’n agos
Mor agos
Mae’n bryd
I dorri’n rhydd
Ni’n byw o hyd
O dydd i ddydd
Mae’n agos
Mor agos
Sa’i ishe aros
Fi’n rhedeg bant
Heb ganiatad
I symyd ‘mlaen,
Yr unig siawns
O ddianc
Yw rhedeg bant
S’dim byd
Yma i ni
So dewch ‘da fi
Rhwy’n begian arna ti
Mae’n agos
Mor agos
Sa’i ishe aros
Fi’n rhedeg bant
|
||||
6. |
Lisa Lân
02:18
|
|||
Bûm yn dy garu lawer gwaith
Do lawer awr mewn mwynder maith
A dy gusanu Lisa gêl
Yr oedd dy gwmni'n well na'r mêl.
Fy nghangen lân, fy nghowlad glyd
Tydi yw'r lanaf yn y byd
Tydi sy'n peri poen a chri
A thi sy'n dwyn fy mywyd i.
Pan fyddwy'n rhodio gyda'r hwyr
Fy nghalon fach a dôdd fel cwyr
Wrth wrando can yr adar mân
Daw hiraeth mawr am Lisa lân.
Lisa, a ddoi di i'm danfon i
I roi fy nghorff mewn daear ddu?
Gobeithio ddoi di, f'annwyl ffrind
Hyd lan y bedd, lle'r wyf yn mynd.
|
||||
7. |
Cerdyn Nadolig
01:53
|
|||
Nadolig llawen annwyl gariad!
Dyma garden fach i ti. Rhwy’n cyfry’r dyddiau tan y bydda’i yn dy freichiau di.
Rhwy’n methu aros nes bod adre, a gweld wynebau pawb i gyd – mae mor ddrwg gen i fy mod mor bell wrtho ti o hyd.
Ydy’r gwyliau wedi ddechrau? Ydy’r goeden ‘Dolig lan? Ti ar fy meddwl i bob amser – wir, rhwy’n edrych ‘mlaen.
Swn y papur lapio’n torri! Oglau’r cinio’n llenwi’r ty! Rhwy’n cyfry’r dyddiau tan y bydda’i yn dy freichiau di.
Yn y cyfamser cymer ofal – cofia fi atyn nhw gyd.
Rhwy’n cyfry’r dyddiau tan y bydda’i yn dy freichiau di.
x
|
||||
8. |
Mas Ar Y Dre
03:10
|
|||
Cerdded adre dydd Gwener
Y glaw yn disgyn ar fy mhen
Wneud y daith nôl o’r gwaith
Sgidiau wedi glychu, fy nhraed yn stecs
Rhwy’n barod am cawod
Fi’n mynd i shafo a gollchi’n wallt
A clanhau fy nannedd
Wi’n mynd i ffresho’n hunan lan
Mynd mas, mas am y noson
Fi’n mynd i rhoi y byd yn ei le
Mae’r penwythnos yn dechrau
Mynd mas, mas ar y dre
‘Na wythnos arall uffernol
W’i wedi cael lawer digon
Ond mae arian ‘da fi i wario
A wi’n mynd i yfed y cwbl lot
Mynd mas, mas am y noson
Fi’n mynd i rhoi y byd yn ei le
Mae’r penwythnos yn dechrau
Mynd mas, mas ar y dre
Bydd ‘na le draw yn dre
Bydd ‘na le draw yn dre
Bydd ‘na le draw yn dre
Hel o le
Cerdded adre dydd Gwener
Y glaw yn disgyn ar fy mhen
Y glaw yn disgyn ar fy mhen
Y glaw yn disgyn ar fy mhen
|
||||
9. |
Llyfr Lliwio
02:32
|
|||
Edrychwch ar y sylffiau ‘co
‘Sdim byd o’i le
Ond os ewch chi draw i edrych ‘to
Fe welwch chi rhywbeth yno…
Tynnwch lawr y llyfr mawr
‘Da’r ochr lliwgar
Fe welwch chi ar y clawr
Teigr cyfeillgar
Ac ar ei ben mae na gwên
Yn gweud wrtho chi,
‘Dewch mewn!’
Trowch y tudalenau drosto
Is bo chi’n ffeindio
Eich llun
Coch a du, gwyrdd a gwyn,
Glas a melyn
Mae ‘na llwyth o liwiau
I lenwi eich llun
Ac ar ôl i chi ado lliw
I’r lluniau fe ddaw nhw…
Yn fyw!
|
||||
10. |
Mwy Na Ddoe
04:16
|
|||
Mae’r haul yn codi
A’r ia yn toddi
A heddiw, rwhy’n gwennu
Mae’r adar ar y mor
A’r eira ar y to
A heddiw, rhwy’n credu
Fy mod yn dy garu di
Fy mod yn dy garu di
Mwy na ddoe
Mae’r gwynt yn chwythu
A fine’n crynu
A heddiw, rhwy’n gwennu
Mae’r coed yn symud
A’i lliwiau’n newid
A heddiw, rhwy’n credu
Fy mod yn dy garu (di)
Fy mod yn dy garu (di)
Mwy na ddoe
Fy mod yn dy garu di
Mwy na ddoe
Mwy na ddoe
Rhwy’n gweld ti’n ofni
Wel paid a phoeni
Mae’r teimlad dal i gynyddu
Fy mod yn dy garu di
Fy mod yn dy garu di
Mwy na ddoe
Dw i yn dy garu di mwy nag erioed
|
||||
11. |
Y Ddôl
03:28
|
|||
Yn Nhal-y-sarn ystalwm
Fe welem Lyfni lân,
A'r ddôl hynafol honno
A gymell hyn o gân;
Ac megis gwyrth y gwelem
Ar lan hen afon hud
Y ddôl a ddaliai Pebin
Yn sblander bore'r byd.
Yn Nhal-y-sarn ysywaeth
Ni welwn Lyfni mwy,
Na gwartheg gwyrthiol Pebin
Yn eu cynefin hwy.
Buan y'n dysgodd bywyd
Athrawiaeth llanw a thrai:
Rhyngom a'r ddôl ddihalog
Daeth chwydfa'r Gloddfa Glai.
A ddaw e nôl?
A ddaw e nôl?
A ddaw e nôl?
Y Ddôl
|
||||
12. |
Eleri
03:31
|
|||
Yn gwaelod y rhiw
Mae na ty
Heb drysau, heb ffenestri
Dyma ble cafodd hi
Ei eni
Mae'r lle hyn yn sefyll o hyd
Gwag ers lawer dydd
Neb i ofalu amdanni
Eleri
Eleri
Be wnest ti
Eleri?
Mae dal rhywbeth gen i
I atgoffa fi o hi :
Hen lun du a gwyn
Ohonni
Eleri
Eleri
Ble est ti
Eleri?
Oes na rhywbeth gwaeth
Yn y byd
Na colli rhywun agos i chi?
Yn enwedig un mor arbennig
A hi
A hi
A hi
Fy Eleri
Yn gwaelod y rhiw
Mae na ty
Heb lloriau, heb to arni
Dyma’r man diwetha
Gwelais i
Eleri, Eleri
Eleri, Eleri
Eleri
Ble est ti?
|
||||
13. |
Mynydd Hud
04:21
|
|||
Cerdded lan y mynydd mawr
Gyda’r wawr
Edrych ‘mlaen, ddim i lawr
Lawr, lawr, lawr
Dilyn dyn yn arwain mul
Hen, hen ful
Sy’n llythro ar y llwybr cul
Cul, cul, cul
Drwy wyrdd y bryn a glas y llyn
Glas y llyn
Lan a lan a lan ni’n mynd
Lan ni’n mynd
Mewn llwyn olewydd gwelais afr,
Gafr wen
Yn dawnsio ar ei goesau ôl
Rownd bonyn pren
Ond cyn i fi ail edrych roedd o
Wedi mynd
So ‘mlaen a ni – i fyny
I fyny
Ar ben y daith roedd pentre bach
Pentre bach
A gyda’r nos fe lando ni
Ar y sgwar
Ac yno roedd y cerddorion yn chwarae cân
A gwelais i yr afr wen yn dawnsio o’u blaen
Tra byddai byw na’i fyth anghofio’r pethau hyn
- Y pentre bach ar ben y bryn
Ar ben y bryn
Yr hudol gerdd,
Yr ŵyl a’r wledd
Ar y mynydd hud
Mynydd hud
|
||||
14. |
Sarafa
04:47
|
|||
Awel iach
Dawel bach
Awel iach
Dawel bach
Ydych chi wedi weld Saravah erioed?
Pierre
Ie Iemanja, Sim Saravah
Barouh
Ie Iemanja, Sim Saravah
Baden
Ie Iemanja, Sim Saravah
Powell
Ie Iemanja, Sim Saravah
Mor dda!
Mae mor dda!
Mor dda!
Mae mor dda!
Maria
Ie Iemanja, Sim Saravah
Bethania
Ie Iemanja, Sim Saravah
Mor dda!
Mae mor dda!
Mor dda!
Mae mor dda!
Awel iach
Dawel bach
Awel iach
Dawel bach
Ydych chi wedi weld Saravah erioed?
Paulinho
Ie Iemanja, Sim Saravah
Da Viola
Ie Iemanja, Sim Saravah
Sarafa
|
||||
15. |
Hapus?
06:07
|
|||
Ar dy wely o rhosis
Faint mor cyfforddus wyt ti?
O ble rhwy’n sefyll,
Fi’n wyndran sut fedri di cysgu?
Yn dy fowlen o ceirios
Ydy rhai yn mwy melys na’r lleil?
A pan bydd nhw’n benu
Os na rhagor da ti ar y gweill?
Wyt ti’n hapus?
Drwy dy sbectol o sicrwydd,
Sut mae’r byd bach yn edrych i ti?
Ti’n gweld y craciau’n dangos?
Ti’n gweld y muriau’n chwalu?
Wyt ti’n hapus?
|
||||
16. |
Mari Lwyd
04:15
|
|||
Pedwar o’r gloch yn y bore
Pedwar o’r gloch yn y bore
Dim yn teimlo fy ngorau
Mae’n pedwar o’r gloch n y bore
Y bore
Yfed gyferbyn â penglog
Yfed gyferbyn â penglog
Dechrau mynd mas o fy nghof
Rhwy’n yfed gyferbyn â penglog
 penglog
Ma Ma Ma Mari Lwyd
Pump o’r gloch yn y bore
Pump o’r gloch yn y bore
Dal ddim yn teimlo fy ngorau
Mae’n pump o’r gloch yn y bore
Y bore
Ma Ma Ma Mari Lwyd
Wel mae’n chwech o’r gloch yn y bore
Chwech o’r gloch yn y bore
Meddwl beth yw’r peth gorau
Chwech o’r gloch yn y bore
Y bore
Ma Ma Ma Mari Lwyd
|
Streaming and Download help
If you like Colorama, you may also like:
Bandcamp Daily your guide to the world of Bandcamp